|
Sefydlwyd M-Trac Cymru yn 2005 er mwyn llenwi'r bwlch oedd yn y farchnad mewn rhagoriaeth mewn trwsio, gwasanaethu a darparu peiriannau amaethyddol i'n cwsmeriaid lleol a thu hwnt.
Darparu gwasanaeth o safon i'n cwsmeriaid yw sylfaen ein busnes. Fe'i rheolir gan y perchnogion, sy'n sicrhau perthynas glos gyda'r cwsmeriaid. Mae'r staff bob amser yn gwneud eu gorau i roi gwasanaeth cyfeillgar, dibynadwy ac o'r gorau.
O fusnes bychan, nôl yn 2005, mae Medwyn Elis, dan yr enw M-Trac Cymru wedi tyfu'n fusnes llwyddiannus. Sicrhau cytundeb i ddelio cynnyrch CASE IH yw eu llwyddiant mwyaf hyd yn hyn.
Daw Medwyn o gefndir amaethyddol, a sefydlodd y busnes dair blynedd yn ôl gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth o safon i bob cwsmer. Mae ei wybodaeth am anghenion ffermio wedi bod yn werthfawr wrth sefydlu'r busnes yn un o'r arweinwyr yn y maes.
Mae Medwyn wedi gweithio ym myd amaeth ers ymhell dros 10 mlynedd, gyda deliwr lleol i ddechrau ac yn fasnachol. Bu iddo fwrw'i brentisiaeth yng Ngholeg Menai lle cafodd gymhwyster arbennig fel peiriannydd disel.
Bu Medwyn yn gweithio i sawl cwmni lleol am flynyddoedd er mwyn ennyn profiad. Yna, ym 1999 penderfynodd fynd i Iwerddon a threuliodd 2 flynedd yn gweithio ac yn ennill mwy o brofiad gyda deliwr Massey Ferguson.
Parhaodd i herio ei hun, a phenderfynodd ef a'i bartner, Jennifer, gymryd cam mawr er mwyn cael mwy o brofiad yn eu meysydd arbenigol, cyn mynd ati i agor eu busnes eu hunain. Yn 2001, fe aethant i'll dau i Awstralia, lle buont yn byw am dros bedair blynedd a hanner. Bu'r ddau yn gweithio i John Deere yn un o diriogaethau mwyaf gerwin y byd a chyda rhai o'r peiriannau mwyaf yn ffermydd mwyaf y wlad.
Roedd Jennifer yn gweithio i'r un cwmni yn ochr gwarantu, anfonebu a chyfrifon y busnes. Dychwelasant i ogledd Cymru gyda'r wybodaeth a'r arbenigedd hwn. Mae'r breuddwyd oes o agor eu garej eu hunain a delio dros un o brif wneuthurwyr y diwydiant amaeth yn awr wedi'i wireddu. Mae'r holl waith caled a'r ymroddiad yn awr yn dwyn ffrwyth.
Ym mis Mai 2007, croesawyd ein haelod cyntaf o staff. Roedd hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni fel busnes newydd. Daeth Brian Moncur, gyda'i wybodaeth a'i brofiad helaeth am dractorau i weithio i'r ystafell arddangos. Mae cyfraniad Brian i'r busnes yn fawr, ac mae wedi helpu gwneud M-Trac Cymru yn fusnes mwy sefydledig.
Ym mis Rhagfyr 2007, cyflogwyd Richard Jones sy'n beiriannydd cymwys a phrofiadol yn ei faes. Mae wedi derbyn pob her newydd o atgyweirio a gwasanaethu peiriannau amaethyddol a ddaeth i'w ran. Mae Richard wedi bod o fudd mawr i'r gweithdy, sy'n ehangu, ac fe ellir atgyweirio a gwasanaethu lawer ynghynt o'i herwydd.
“Wrth i'r busnes dyfu, ein nod yw parhau i ddarparu gwasanaeth o safon gan ddal i fodloni'r cwsmeriaid.
Mae ein syniadaeth yr un fath o hyd yn M-Trac Cymru. Rydym yn ymroi i darpariaeth mewn Gwerthiannau, Gwasanaethau a Rhannau Sbâr; ym mhob rhan o Amaethyddiaeth.
Ein nod yw rhoi gwasanaeth gwell nac mae'r cwsmer yn ei ddisgwyl, o ran gwybodaeth am y cynnyrch ac atebion ymarferol am anghenion eu peiriannau/offer".
Uchod, mae taith rithwir o gwmpas ein hadeiladau ac i rai digwyddiadau lle buom yn arddangos ein peiriannau.
Diolch am ymweld â'n gwefan. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau. Os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.
|