Croeso i M-Trac Cymru (Gogledd Cymru)
Rydym yn ymroi i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i'n cwsmeiriad hen a newydd – yn ffermwyr, contractwyr, meysydd carafanau a mwy.
Rydym ni yn M-Trac Cymru yma i'ch helpu i gynnal eich peiriannau amaethyddol a sicrhau eu bod yn gweithio'n iawn. Nid yn unig bod gennym stoc helaeth o rannau tractor, rhannau igyfarpar amaethyddol, rhannau sbâr ac atodol, ac olewau, ond mae gennym yr arbenigedd i'ch cynghori a'ch cefnogi.
O'n pencadlys yng nghanol cefn gwlad Gwynedd rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:
- Gwasanaeth trwsio pibellau hydrolig a gwneud pibellau ar archeb wrth i chi aros.
- Gwasanaethu a thrwsio tractorau, pob enw a model.
- Gwasanaethu a thrwsio systemau aerdymheru
- Atgyweirio a gwasanaethu peiriannau torri gwair ac offer garddio eraill
- Gwerthu peiriannau newydd ac wedi''u defnyddio
- Weldio amaethyddol a gwasanaeth ffabrigo
Mae gennym brofiad helaeth o gefnogi'r diwydiant amaethyddol trwy'r ddarpariaeth o dractorau cyfoes a chlasurol. Am rannau i offer amaethyddol, batrïau, olewau, paent, rhannau sbâr ac atodol, cysylltwch ag M-Trac Cymru'n gyntaf.
Cysylltwch â ni heddiw, gan nodi eich ymholiad dros y ffôn ar 01766 530 555.
Os oes angen rhan, yn sicr, fe'i cawn; os nad mewn stoc, bydd yma toc. |
|
Rhannau a Partiau
Mae gennym amrywiaeth eang o rannau mewn stoc. Os nad yw'r hyn yr ydych eisiau yma, fe allwn ei gael! |
|
|
|
CASE IH
Peiriannau a rhannau CASE IH yn awr mewn stoc
|
|
|
|
JCB
Peiriannau JCB yn awr mewn stoc. |
|
|
|
|